Car uwchsonig yn ymweld â Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Bydd y roced fydd yn pweru'r car yn cael ei adeiladu yn Wrecsam
Mae car fydd yn ceisio torri record cyflymder y byd yn cael ei arddangos ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.
Mae'r car uwchsonig, Bloodhound, yn ymweld â'r dref am ddeuddydd fel rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Wrecsam.
Mae'r car wedi ei gynllunio i gyrraedd cyflymder o hyd at 1,050 milltir yr awr.
Bydd y roced fydd yn pweru'r car yn cael ei adeiladu yn Wrecsam.
Unwaith i''r gwaith gael ei gwblhau bydd y car yn cael ei anfon i Dde Affrica, gyda'r nod o gyflawni cyflymder o 1,000 yn 2013.
Bu plant o ysgolion lleol yn ymweld â'r brifysgol ddydd Mercher er mwyn gweld y car.
Bydd modd i'r cyhoedd ei weld o 6.15pm, ac yna bydd darlith gyhoeddus gan gyfarwyddwr y prosiect am 7pm.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol