Cynllun £50m: Gwesty a thai gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau wedi eu cyflwyno i godi gwesty newydd a hyd at 80 o dai gwyliau yng ngorllewin Cymru.
Cwmni Maxhard sydd tu cefn i'r cynnig i godi'r gwesty 92 ystafell, gan gynnwys canolfan hamdden a phwll nofio, yn Llanfynydd ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r cais cynllunio amlinellol hefyd yn sôn am godi 10 o siopau a lle parcio ar gyfer 220 o geir.
Dywedodd y datblygwyr y byddai'r cynllun yn golygu buddsoddiad o £50 miliwn.
Mae'r safle yn agos i Neaudd Pantglas, lle mae cwmni eisoes yn darparu cabanau gwyliau ar safle 37 acer.