Dedfryd ohiriedig i gynswyddog heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae cynswyddog Heddlu Gogledd Cymru wedi cael dedfryd ohiriedig am fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Clywodd Llys y Goron Amwythig fod Ian Williams, 45 oed ac yn byw ar Ynys Môn, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o wneud ac o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, ac o annog plentyn i gyflawni gweithredoedd rhywiol.
Cafodd Williams, oedd yn uwcharchwilydd safleoedd troseddu yng nghanolfan yr heddlu yng Nghaernarfon, ddedfryd o 52 wythnos o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr R W Onions ei fod yn ffodus ei fod yn cael ei ddedfrydu ar sail yr hyn yr oedd wedi cyfaddef yn hytrach na'r hyn yr oedd y barnwr yn amau ei fod wedi ei wneud.
Cafodd Williams hefyd orchymyn goruchwylio i fynychu rhaglen waith i droseddwyr rhyw.
Bydd hefyd yn destun Gorchymyn Gwahardd Troseddwyr Rhyw ac fe fydd rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw.
Cafodd ymchwiliad adran safonau proffesiynol Heddlu'r Gogledd ei reoli gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu tra bod Heddlu West Mercia wedi ymchwilio i honiadau am droseddau gyflawnwyd yn eu hardal nhw.
'Ffiaidd'
Dywedodd Comisiynydd Cymru, Tom Davies: "Roedd y drosedd yn ffiaidd yn erbyn merched ifanc bregus gan ddyn aeddfed oedd mewn safle cyfrifol gyda'r heddlu.
"Blaenoriaeth yr ymchwiliad oedd sicrhau nad oedd wedi camddefnyddio'i safle gyda'r heddlu i gyflawni troseddau ac rwyf wedi cael sicrwydd gan Heddlu'r Gogledd nad oedd tystiolaeth iddo wneud hynny.
"Hoffwn ddiolch i Heddlu'r Gogledd a Heddlu West Mercia am eu gwaith diflino i ddarparu'r dystiolaeth arweiniodd at gael Williams yn euog."
Ychwanegodd Ditectif Arolygydd Simon Williams o Heddlu'r Gogledd: "Bydd Heddlu'r Gogledd yn gweithredu'n fuan a phenderfynol oherwydd troseddau fel hyn os ydynt yn cael eu cyflawni gan y cyhoedd neu gan aelodau o staff.
"Yn yr achos hwn cafodd Williams ei ddiswyddo gan Heddlu'r Gogledd yn gynnar yn yr ymchwiliad pan oedd digon o dystiolaeth wedi dod i law."