Asiantaeth: Pedwar wedi eu harestio
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad ynglŷn ag asiantaeth gosod tai yng Nglannau Dyfrdwy.
Ym mis Hydref caeodd cwmni Eazylet yn Shotton.
Y gred yw bod y cwmni yn addo arian rhent a blaendaliadau i landlordiaid a thenantiaid.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod tri dyn a menyw wedi eu harestio ac wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
'Cymhleth'
Mae'r heddlu wedi chwilio pum tŷ a dau adeilad busnes.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Kevin Bowden sy'n arwain yr ymchwiliad: "Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth ac fe fydd yn cymryd tipyn o amser.
"Fe ddylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101."
Dywedodd Adran Safonau Masnach Cyngor Sir Y Fflint eu bod wedi derbyn nifer o ymholiadau oddi wrth bobl sy'n pryderu am eu blaendaliadau.