Cynllun i godi 600 o dai
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i droi ardal ddiwydiannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ardal breswyl a busnes, gan gynnwys 600 o gartrefi, yn cael eu trafod.
Y bwriad yw defnyddio tir Clwb Rygbi Heddlu De Cymru a thir y cyngor ar gyfer y datblygiad i adfer ardal Waterton.
Dywedodd adroddiad am y cynllun fod yr ardal wedi ei "thanddefnyddio" a bod "adeiladau mewn cyflwr gwael yno".
Clywodd cynghorwyr y byddai'r cais ar gyfer cynllun Adfer Ardal Parc Afon Ewenni yn sicrhau y byddai tai ac adeiladau ar gyfer busnesau, siopau a chyfleusterau hamdden ar y 66 erw o dir.
Ymgynghoriad cyhoeddus
Mae'r safle wedi'i amgylchynu gan yr A48 a'r A473 ac fe fyddai rhaid adeiladu cylchfan ar gyfer mynediad i Barc Afon Ewenni.
Y cam nesaf fydd ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd Nick Lanagan, Cadeirydd Clwb Rygbi Heddlu De Cymru, ei fod wedi clywed am y cynlluniau ychydig o dyddiau'n ôl.
"Mae'r heddlu wedi ein hysbysu na fydd y cynllun yn dod i'r fei am o leiaf bum mlynedd," meddai.
" Fe fyddai'r cynllun yn arwyddocaol os ydyn ni'n colli ein cae rygbi.
"Rydyn ni wedi cael cynnig cyfleusterau newydd pan mae cynlluniau tebyg wedi eu crybwyll yn y gorffennol.
"Rwy'n tybio y bydd yr arian o'r gwerthiant yn arwain at ddarparu cyfleusterau ar ein cyfer."
'Ffyniannus'
Mae poblogaeth sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynyddu o 4.3% i 135,000 ers degawd a'r disgwyl yw y bydd yn codi o 3% erbyn 2021.
Dywedodd y Cynghorydd Phil While, aelod y cabinet sy'n gyfrifol am gymunedau: " Mae'r ardal hon wedi cael ei defnyddio ar gyfer busnes a diwydiant ond mae dogfen yr uwch-gynllun yn bwriadu trawsnewid yr ardal i un sy'n fwy ffyniannus a cnaliadwy."
Eisoes mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynnig i alluogi pobl sy'n prynu tai newydd yn Lloegr fenthyg hyd at 95% o werth y tŷ ac fe fyddai'r llywodraeth yn gwarantu rhan o'r risg i'r benthycwyr.
Mae cynllun tebyg ar gyfer Cymru yn cael ei ystyried.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2011
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2005
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2004