Corff milwr yn dychwelyd i Brydain
- Cyhoeddwyd

Mae corff milwr a fu farw tra ar ddyletswydd yn Afghanistan yn dychwelyd i Brydain.
Roedd yr Is-Gorporal Richard Scanlon yn 31 oed ac yn dod o Rymni, Sir Caerffili.
Mae disgwyl i'r awyren lanio am 12.30pm ym maes awyr yr awyrlu yn Brize Norton ddydd Iau.
Ar ôl seremoni breifat yno fe fydd yr orymdaith yn arwain i Ysbyty John Radcliff yn Rhydychen, gan basio'r Gerddi Coffa tua 3.30pm.
Bydd cyrff tri milwr arall hefyd yn cael eu hebrwng yn ôl.
'Cymeriad arbennig'
Mae teulu a ffrindiau wedi rhoi teyrngedau i'r Is-Gorporal Scanlon, oedd yn aelod o Fataliwn Cyntaf Gwarchodlu Dragwniaid Y Frenhines.
Roedd yn un o ddau filwr a fu farw ddydd Iau yr wythnos ddiwethaf yn nhalaith Helmand.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod eu cerbyd wedi cael ei daro gan ffrwydrad yn ardal Yakchai yn ardal Nahr-e-Saraj.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Scanlon ei fod yn "gymeriad arbennig".
Straeon perthnasol
- 19 Tachwedd 2011
- 18 Tachwedd 2011
- 17 Tachwedd 2011
- 7 Hydref 2011