Atal angladd i gymryd olion bysedd
- Cyhoeddwyd

Cafodd angladd yn Sir Benfro eu hatal am fod yr heddlu wedi eu hysbysu bod y dyn oedd yn cael ei gladdu wedi ffoi rhag yr heddlu ers 24 mlynedd.
Gadawodd Andrew Paterson Brydain wedi iddo gael ei gyhuddo o dwyll gwerth £17,000 ac yr oedd wedi llwyddo i osgoi cael ei arestio ers 1987.
Ond pan fu farw yn ei gartref yn Goa, India, penderfynodd ei drydedd wraig drefnu ei ddymuniad olaf o gael ei gladdu ym mro ei febyd, sef Begeli yn Sir Benfro.
Ond cafodd yr heddlu eu hysbysu am yr angladd.
Llwyddodd yr heddlu i atal Mr Paterson rhag cael ei gladdu tan iddyn nhw gynnal archwiliad ôl-bysedd i adnabod y corff.
Ffugenw
Yn ddiweddarach cafodd corff Mr Paterson ei gladdu ym mynwent Eglwys Santes Fair, Begeli.
Teithiodd Andrew Paterson o gwmpas y byd gan sefydlu nifer o gyrchfannau gwyliau llwyddiannus o dan yr enw, Mark Attwood.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd yr ymchwiliad i droseddau honedig Mr Paterson wedi llwyddo i'w canfod ers 1987.
Ychwanegodd yr heddlu fod marwolaeth Mr Paterson wedi dod ag ymchwiliad tymor hir i ben.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedd Mr Paterson wedi bod yn bresennol yn Llys y Goron Guildford ar Hydref 13 1987 pan oedd i fod i ymddangos gerbron y llys i ateb cyhuddiadau o dwyll.