Dadorchuddio hen ddarluniau o'r pechodau mewn eglwys
- Cyhoeddwyd

Mae paentiadau wal Canol Oesol o bump o'r Saith Pechod Marwol wedi cael eu dadorchuddio mewn eglwys ym Mro Morgannwg wedi gwaith cadwraeth.
Darganfuwyd lluniau o chwant, cybydd-dod, trachwant, diogi a balchder yn ystod prosiect tair blynedd yn Eglwys Sant Cadog, Llancarfan.
Bydd digwyddiad nos Wener yn dathlu ailddarganfod y murluniau 15fed ganrif a gafodd eu gweld diwethaf tua 1547.
Mae yna obaith dod o hyd i'r cyllid er mwyn dadorchuddio'r ddau bechod sy'n weddill, sef dicter a chenfigen.
Mae'r prosiect eisoes wedi costio £140,000.
Sefydlodd y plwyfolion bwyllgor cadwraeth yn 2008 pan ddarganfuwyd llinell goch, denau o ocr dan fwy nag 20 haen o wyngalch wedi eu hychwanegu dros bum canrif.
Cafodd cadwraethwyr eu galw mewn gydag arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cadw a ffynonellau eraill.
Dadorchuddiwyd lluniau o deulu brenhinol a beth sydd wedi ei ddisgrifio yn un o'r darluniau mwyaf o San Siôr a'r Ddraig sydd erioed wedi ei weld mewn eglwys ym Mhrydain.
Yng nghyfnod mwyaf diweddar y prosiect mae paentiadau o bump o'r Saith Pechod Marwol wedi eu datgelu.
Mae'r eglwys, sydd yn fwy na 1,000 mlwydd oed, wedi bod ar gau i ymwelwyr ac eithrio ar gyfer gwasanaethau yn ystod y tair blynedd diwethaf tra bod gwaith cadwraeth yn mynd ymlaen.
Credir i'r lluniau cael eu gorchuddio gan wyngalch wedi i Harri VIII dorri ei gysylltiad gyda'r Eglwys Babyddol.
Yn sgil hyn daeth hefyd dueddiad gan yr Eglwys Brotestannaidd o wrthod addurno eglwysi'n ormodol.
Dywedodd yr offeiriad sydd yn gyfrifol am Lancarfan, Yr Hybarch Peggy Jackson: "Rydym yn gobeithio y byddwn yn medru datgelu'r ddau bechod ychwanegol fel ail ran y prosiect adfer.
"Rydym yn ceisio codi arian ar gyfer hyn ar hyn o bryd."