Newid lleoliad lido newydd

Afan Lido ar ôl y tân Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Cyngor Castell Nedd Port Talbot wedi addo codi adeilad yn lle'r ganolfan a ddinistriwyd.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnal trafodaethau gyda datblygwyr ynglŷn â chodi Lido newydd yn Aberafan.

Cafodd yr hen adeilad ei losgi yn ulw ar Ragfyr 16, 2009.

Nawr mae posibilrwydd y bydd y safle yn cael ei symud tua chan llath.

Bwriad cwmni Murdock Property yw codi'r Lido ar safle canolfan bowlio dan do.

Y cwmni sy'n berchen ar yr hen adeilad bowlio.

Eu bwriad yw troi'r adeilad yn bwll nofio, ac yna codi adeilad newydd drws nesaf ar gyfer y cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer lido newydd.

Sinema

Mae yna fwriad hefyd i godi sinema ac unedau ar gyfer siopau gerllaw.

Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor, newydd ddechrau mae'r trafodaethau ynglŷn â'r cynllunio.

Nid oess cais cynllunio wedi ei wneud.

Mae'r cynghorwyr wedi clywed y byddai'n costio tua £13.6m i godi lido newydd.

Cafodd Lido Afan ei agor yn swyddogol gan y Frenhines ym mis Mehefin 1965, ac yn wreiddiol roedd yn cynnwys pwll nofio o faint cystadleuol 50 metr er i hwnnw gael ei newid yn ddiweddarach i bwll 25m.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.