Cyhuddo dyn o dreisio

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gasnewydd wedi ei gyhuddo o dreisio ac o geisio treisio dwy ddynes mewn llwybr tanddaearol ddydd Sul.

Bydd Wayne David Jackson yn ymddangos gerbron Ynadon Caerffili ddydd Gwener.

Mae o hefyd wedi ei gyhuddo o ladrata.

Cafodd ei arestio ddydd Sul yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Heddlu Gwent i ymosodiad rhyw ar ddwy ddynes yn oriau mân ddydd Sul.

Honnir i'r ymosodiadau ddigwydd mewn llwybr tanddaearol sy'n mynd o dan orsaf rheilffordd y ddinas.