Cyffuriau: Mwy o farwolaethau

  • Cyhoeddwyd
Potel o methadonFfynhonnell y llun, SPL

Mae crwner yn dweud ei fod ei fod o yn gwrando ar fwy o achosion o farwolaethau yn Sir Fôn oherwydd cyffuriau nag erioed o'r blaen.

Yn ôl Dewi Pritchard-Jones, crwner gogledd-orllewin Cymru, roedd methadon oedd yn cael ei roi ar bresgripsiwn yn gyfrifol am nifer o'r marwolaethau.

Roedd o'n cynnal cwest yn Llangefni i fachgen 16 oed oedd wedi marw o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, neu gyfuniad o'r ddau.

Clywodd cwest arall fod Paul Watson, 28 oed, o Niwbwrch wedi marw ar ôl diwrnod a noson o yfed a chymryd cyffuriau, gan gynnwys methadon, faliwm a diazepam.

Roedd wedi bod yn yfed mewn tafarn pentref, fflat, ac yna bu'n yfed a chymryd cyffuriau mewn clwb nos yng Nghaergybi. Ar y ffordd adref fel alwodd mewn siop 24 awr er mwyn prynu mwy o alcohol.

Dywedodd Mr Prtichard-Jones fod yr awdurdodau yn ceisio cael gwared â methadon o'r strydoedd drwy ei roi ar bresgripsiwn.

Cyflenwadau bach

Roedd o'n cael ei ddosbarthu mewn cyflenwadau bach, ac mae'n rhaid ei gymryd mewn fferyllfa.

Ond dywedodd Mr Pritchard-Jones fod hynny'n gallu bod yn anodd mewn ardaloedd gwledig.

Mae Mr Pritchard-Jones yn aelod o bwyllgor sy'n astudio marwolaethau cyffuriau yn y gogledd, ac sydd wedi bod yn ceisio perswadio meddygon teulu i roi cyflenwadau bach o fethadon.

Roedd o o'r farn bod rhai sy'n derbyn methadon ar bresgripsiwn yn ei werthu er mwyn cael arian i brynu heroin.

Yn y llys fe wnaeth rybuddio ffrindiau ifanc Paul Watson am beryglon cyffuriau, a'r posibilrwydd o ddiweddu'ch bywyd mewn bag plastig ar fwrdd mewn marwdy.