Tom Jones yn 'drysor cenedlaethol'
- Cyhoeddwyd

Syr Tom Jones sydd wedi cael ei ddewis fel 'Trysor Cenedlaethol Byw Mwyaf Cymru' mewn pleidlais a drefnwyd gan loteri'r Euromillions.
Enillodd y canwr o Bontypridd er gwaethaf cystadleuaeth gref gan y Fonesig Shirley Bassey, Catherine Zeta Jones a Syr Anthony Hopkins.
Cafodd y bleidlais ei chomisiynu gan y loteri fel rhan o ymgyrch Mis y Miliwnyddion, ac roedd pleidlais ymhob rhan o'r DU i ddewis enillydd o restr fer a luniwyd gan banel o arbenigwyr.
Bydd lluniau'r buddugwyr yn cael eu gosod ar bapur miliwn o bunnau ffug fydd yn cael eu gwneud i ddathlu'r mis.
'Haeddiannol'
Daeth Syr Tom - sydd wedi mwynhau llwyddiant yn siartiau pop dros gyfnod o ddegawdau - yn glir ar frig y bleidlais yng Nghymru, gyda Syr Anthony Hopkins yn ail a'r Fonesig Shirley Bassey'n drydydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Euromillions: "Mae Syr Tom yn haeddiannol wedi ennill ei le yng nghalonnau'r genedl ac yn cael ei ystyried yn un o ddiddanwyr mwyaf ein hoes."
Mae yna bapur £1,000,000 go iawn yn bodoli, ond mae'n cael ei gadw dan glo mewn nifer o fanciau'r DU ac nid yw ar gael at ddefnydd y cyhoedd.
Ond mae un daroganwr ariannol, Geoff Ellis, yn credu y bydd rhaid defnyddio papurau arian o'r fath erbyn y flwyddyn 2170!