BBC Cymru Fyw

Gleision 38-0 Aironi

Published
image copyrightOther

Fe gafodd y Gleision fuddugoliaeth gyffyrddus wrth i gynghrair RaboDirect Pro12 ail ddechrau wedi'r bwlch am Gwpan Heineken.

Roedd disgwyl hynny gan y Gleision wrth groesawu'r tîm ar waelod y tabl - Aironi - i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Er hynny roedd y tîm cartref yn ymddangos yn nerfus mewn hanner cyntaf o welodd 12 o bwyntiau yn unig yn cael eu sgorio - y cyfan o droed Dan Parks.

Ond daeth cais cynnar wedi'r egwyl i dawelu'r nerfau gan Casey Laulala, ac fe ddilynodd ail gan seren y gêm - Dafydd Hewitt - i roi'r Gleision ar ben ffordd.

Er gwaeth ymdrechion dewr yr ymwelwyr o'r Eidal, agorodd y llifddorau wedi'r awr.

Tom James gafodd y trydydd cais, ac fe ddaeth y pwynt bonws wrth i Marc Breeze groesi am bedwerydd.

Gyda Dan Parks yn cyfrannu 16 o bwyntiau a'r eilydd Ceri Sweeney yn ychwanegu trosiad hefyd, roedd y fuddugoliaeth o 38-0 yn gwbl haeddiannol.

Canlyniad :-

Gleision 38 - 0 Aironi

Tabl RaboDirect Pro12