Damwain: Dyn mewn cyflwr difrifol

Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn damwain ffordd yn y Rhyl nos Iau.

Cafwyd gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd - Peugeot gwyrdd a Citroen lliw arian - ar Ffordd Cefndy, tua 6.30pm.

Aed â dyn i Ysbyty Glan Clwyd lle y mae mewn cyflwr difrifol.

Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 0845 607 1001 neu 101.