Abertawe: Rodgers am arwyddo chwe chwaraewr

Brendan Rodgers Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe wnaeth Brendan Rodgers arwyddo chwech o chwaraewyr dros yr haf

Mae Brendan Rodgers wedi datgleu ei fod yn gobeithio arwyddo hyd at chwe chwaraewr yn y ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr i roi hwb i ymgais Abertawe i aros yn yr Uwchgynghrair.

Mae'r Elyrch wedi cael dechrau calonogol ar y lefel uchaf, ond mae Rodgers yn gofalu rhag bod yn hunanfodlon oherwydd maint ei garfan fechan.

"Rydym yn chwilio am chwaraewyr i gryfhau'r garfan," meddai rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe.

"Er mwyn ein cadw ni yn yr Uwchgynghrair, rwy'n teimlo fod angen rhwng pedwar a chwech o chwaraewyr."

Sgorio

Fe wnaeth amddiffynnwr Groeg, Vangelis Moras, arwyddo i'r clwb ym mis Hydref wedi i FIFA wrthod rhoi caniatâd i ddau arall, Darnell Situ a Rafik Halliche, gael trwydded rhyngwladol.

Mae anaf tymor hir i Alan Tate yn golygu y bydd Rodgers yn gobeithio cryfhau'r amddiffyn, ac mae'n ymddangos hefyd ei fod am wella canol cae gan ei fod eisoes wedi mynegi dyhead i arwyddo Josh McEachran o Chelsea ar fenthyg.

Dim ond tri thîm sydd wedi sgorio llai o goliau nag Abertawe yn yr Uwchgynghrair, felly mae'n debyg y bydd Rodgers hefyd am ychwanegu sgoriwr i'r garfan.

'Asesu'

"Rydym wedi gwneud yn dda iawn gyda'r chwaraewyr sydd gennym hyd yma," meddai'r rheolwr.

"Ond wrth i ni agosáu at fis Mai ac ail ran y tymor, rydych angen cymaint o chwaraewyr ag y medrwch chi.

"Roeddwn am asesu'r sefyllfa tan fis Ionawr - mae'r chwaraewyr sydd wedi dod â ni i'r sefyllfa bresennol yn haeddu hynny.

"I roi'r cyfle i ni aros yn y gynghrair yma, rwy'n teimlo bod angen rhwng pedwar a chwech o chwaraewyr er mwyn cadw cryfder a dyfnder i'r garfan.

"Dyna fyddaf yn ceisio'i wneud, ac rwy'n siŵr fod y clwb am ddatrys hynny hefyd."

Bydd Abertawe yn croesawu Aston Villa i Stadiwm Liberty am 1:30pm brynhawn Sul, Tachwedd 27.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.