Deiseb i atal cynlluniau datblygu
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o Gymry amlwg wedi arwyddo deiseb sydd yn galw ar y Llywodraeth i atal Cynlluniau Datblygu Lleol er lles y Gymraeg, medd Cymdeithas yr Iaith.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan nifer o grwpiau sy'n cyd-weithio er mwyn newid y gyfundrefn cynllunio bresennol - ymysg y grwpiau mae grŵp Deffro'r Ddraig a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae'r Gymdeithas yn pryderu y bydd y cynlluniau yma yn arwain at ddatblygiadau tai anaddas, diangen oherwydd nad ydynt wedi eu seilio ar anghenion presennol y cymunedau.
Ymysg y bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb y mae'r awduron Dewi Prysor, Catrin Dafydd, Angharad Blythe a Dr Mererid Hopwood, a'r cerddorion Geraint Lovgreen, Steve Eaves, Ceri Cunnington, Lleuwen Steffan a Gwyneth Glyn.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog eu haelodau i lofnodi deiseb ar wefan y Cynulliad cyn iddi gau ar ddiwedd y mis. Mae'r ddeiseb yn galw am atal holl Gynlluniau Datblygu Lleol ar unwaith "er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol."
'Anaddas'
Meddai Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'n holl bwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn deall dyfnder y gwrthwynebiad i'r Cynlluniau Datblygu Lleol yma.
"Dydyn nhw ddim yn mynd i'r afael â'r problemau sydd yn wynebu cymunedau Cymru. Yn hytrach mae'n bosib iawn y byddant yn gwaethygu sefyllfa'r Gymraeg wrth i niferoedd anaddas o dai gael eu hadeiladu."
Ychwanegodd Alun Lenny ar ran Cynghorwyr Tref yng Nghaerfyrddin, sydd yn arwain ymgyrch yn erbyn cynllun i ddatblygu mil dau gant o dai yn y dref:
"D'oedd Tryweryn yn ddim o'i gymharu â'r dinistr y gallai'r Cynlluniau Datblygu Lleol wneud i gymunedau ar draws Cymru.
"Yng nghefn gwlad Lloegr, mae ymgyrch gref yn cael ei hymladd ar hyn o bryd yn erbyn y fath gynlluniau.
"Ond mae llawer mwy na chaeau gwyrdd yn y fantol yma yng Nghymru.
"Byddai codi miloedd o dai, nad oes eu hangen ar bobl leol, yn hyrwyddo mewnfudo ar raddfa hollol ddinistriol i natur ieithyddol a chymdeithasol sawl ardal.
"Bydd hi'n rhy hwyr i brotestio pan fydd y teirw dur yn symud i mewn, nawr yw'r amser i wrthwynebu - gan gynnwys y weithred syml hon o arwyddo'r ddeiseb ar-lein."
'Sensitif'
Dywedodd Dr Simon Brooks o Brifysgol Caerdydd:
"Dylai cymunedau a chynaliadwyedd fod wrth galon y drefn gynllunio. Yn anffodus, fu hyn erioed yn wir yng Nghymru.
"Ond wedi datganoli, fe ddylai'r dyddiau o orfodi datblygiadau tai mawr ar gymunedau sy'n sensitif yn ieithyddol fod wedi'u rhifo. Dylid seilio targedau ar gyfer codi tai ar anghenion lleol."
Doedd gan Llywodraeth Cymru ddim sylw i wneud ar y mater, na'r ddeiseb.
Straeon perthnasol
- 2 Gorffennaf 2011
- 5 Ebrill 2011
- 13 Chwefror 2011