Pledio'n euog i achosi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Ian HamiltonFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i gorff Ian Hamilton, 27 oed o Fryste, ger Pontllanfraith

Mae dyn 22 oed o Risga, Sir Caerffili wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Roedd Jamie Gray, 22 oed, gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener trwy gyswllt fideo.

Cafwyd hyd i gorff Ian Hamilton, 27 oed o Fryste, ger Pontllanfraith yn Sir Caerffili yn gynnar ar Orffennaf 17 2011.

Dywedodd y Barnwr Nicholas Cooke QC bod hwn yn achos anghyffredin gan fod Mr Hamilton yn gorwedd yng nghanol yr heol yn gwisgo cuddliw llawn.

Bydd Mr Gray yn cael ei ddedfrydu ar Ragfyr 9.