18 mlynedd o garchar i dreisiwr
- Cyhoeddwyd

Mae treisiwr plant a geisiodd osgoi cyfiawnder drwy redeg i ffwrdd wedi cael ei garcharu am 18 mlynedd gan Lys y Goron Caerdydd.
Fe wnaeth Edwin Smith, 43 oed o Fargoed ger Caerffili, gyflawni cyfres o ymosodiadau rhyw ar ferched dros gyfnod o saith mlynedd.
Fe dreisiodd dwy fenyw arall mewn ymosodiadau a ddisgrifiodd y barnwr fel "ymhlith y gwaethaf o'u math".
Mewn un digwyddiad, fe wnaeth Smith ymosod ar fenyw am gyfnod hir tra roedd ei dwy ferch yn cysgu yn yr ystafell drws nesaf.
Fe ddeffrodd y plant a dechrau taro'r waliau a sgrechian ar Smith i adael llonydd i'w mam.
'Erchyll'
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands: "Roedd yn ymosodiad brawychus a llygredig lle cafodd y fenyw ei gwaradwyddo a'i cham-drin am gyfnod sylweddol o amser.
"Dioddefodd oriau o drais gennych - mae'n anodd meddwl am dreisio gwaeth na hynny.
"Mae'r darlun o blentyn bach yn taro wal a gweiddi arnoch i adael llonydd i'w mam yn un erchyll."
Yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Hydref, fe gafwyd Smith yn euog o gyfres o droseddau rhyw yn ymestyn dros gyfnod o 21 mlynedd.
Ond wedi'r achos fe redodd i ffwrdd cyn i'r heddlu ei ddal ar draffordd yr M5 yn ceisio dianc i ogledd Lloegr.
'Dwyn diniweidrwydd'
Wrth ei ddedfrydu i 18 mlynedd o garchar am droseddau rhwng 1985 a 2006 dywedodd y barnwr:
"Mae angen i amddiffyn y cyhoedd rhag niwed difrifol gennych ac mae'r ddedfryd yn sicrhau hynny.
"Mae eich ymddygiad yn ystod yr achos, gan gynnwys peidio dychwelyd i'r llys, yn dangos nad ydych yn edifar o gwbl am y niwed yr ydych wedi ei achosi i'r pedair menyw yma.
"Mae eich troseddau ymhlith y gwaethaf o'u math - fe wnaethoch gymryd mantais o ferched ifanc pan oeddech yn llawer hŷn na nhw.
"Fe wnaethoch ddwyn diniweidrwydd y merched, ac mae'n rhaid i chi nawr wynebu'r goblygiadau."
'Peryglus a chyfrwys'
Wedi'r ddedfryd, dywedodd Kath Coleman o Wasanaeth Erlyn y Goron Cymru:
"Mae Edwin Smith yn unigolyn peryglus a chyfrwys ac mae'n iawn y bydd dan glo am gyfnod sylweddol.
"Hoffwn dalu teyrnged i'r rhai a ddioddefodd yn yr achos hwn am gael y dewrder i adrodd am yr hyn ddigwyddodd iddynt.
"Yn amlwg mae hwn wedi bod yn gyfnod brawychus iawn iddyn nhw, a gallwn ond gobeithio y bydd dedfryd heddiw yn eu galluogi i symud ymlaen gyda'u bywydau."
Straeon perthnasol
- 7 Hydref 2011
- 4 Hydref 2011