E.coli: Trydydd babi wedi ei heintio
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr iechyd wedi dweud eu bod yn amau fod trydydd babi wedi ei heintio gyda'r math ESBL o E.coli yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Ar hyn o bryd mae profion yn cael eu cynnal i geisio darganfod y tarddiad.
Bydd adolygaid annibynnol yn cael ei gynnal wedi i ddau fabi arall farw ar ôl cael eu heintio.
Roedd y trydydd babi yn yr uned newydd-anedig yn ystod y mis diwetha.
Roedd yr awdurdodau wedi gobeithio ailagor yr uned yn llwyr ddydd Gwener.
Ymhlith y ddau fu farw roedd un yn fabi bum niwrnod oed, Hope Erin Evans o Aberdâr, fu farw ar ôl cael ei heintio yn yr ysbyty.
Bu farw babi cynamserol arall yn yr ysbyty ar ôl cael ei heintio yn y gymuned.
Y gred yw bod cysylltiad rhwng y ddau achos ac fe fydd ymchwiliad yn ystyried sut y digwyddodd y traws heintiad.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod tri achos arall yn achosion unigol.
Mae'r math ESBL o E.coli yn ymwrthol i gyffuriau gwrthfiotig ac yn anodd ei drin.
Dim ond genedigaethau arferol sy'n cael eu derbyn i Ysbyty Singleton ar hyn o bryd.
Dywedodd y Bwrdd Iechyd y dylai darpar famau sy'n bryderus neu sydd am ofyn cwestiynau siarad gyda'u bydwragedd ar y cychwyn. Maen nhw hefyd wedi sefydlu llinell gymorth arbennig: 07747 615627.
Straeon perthnasol
- 22 Tachwedd 2011
- 21 Tachwedd 2011
- 19 Tachwedd 2011
- 18 Tachwedd 2011