Connacht 6-17 Gweilch

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other
disgrifiad o’r llunRhys Webb greodd y cais cyntaf i Matthew Morgan dros y Gweilch

Mae'r Gweilch wedi codi yn ôl i frig tabl y RaboDirect Pro12 yn dilyn buddugoliaeth dros Connacht er bod nifer o'u chwaraewyr yn absennol.

Roedd Leinster wedi eu disodli am ychydig oriau brynhawn Sadwrn drwy guro Caeredin.

Roedd y Gweilch a Connacht wedi sgorio cic gosb yr un cyn i Rhys Webb dorri'n glir i greu cais i Matthew Morgan wedi 32 o funudau.

Er i droed Miha Nikora gadw Connacht o fewn cyrraedd, fe ddaeth ail gais i'r Gweilch gyda Sonny Parker yn croesi i sicrhau'r pwyntiau.

Nos Wener fe wnaeth y Scarlets ymestyn eu rhediad o wyth gêm heb golli wrth guro'r Dreigiau ym Mharc y Scarlets.

Roedd y capten Stephen Jones ar flaen y gâd yn ei 300fed gêm dros y clwb wrth i'r tîm cartref ennill gornest gystadleuol.

Llwyddodd y maswr i gicio bob un o'i bum cic gosb cyn llwyddo gyda throsiad wedi i Rhys Thomas sgorio unig gais y gêm.

Ciciodd Jason Tovey dair cic gosb a Steffan Jones un gic gosb i'r Dreigiau.

Fe gafodd y Gleision fuddugoliaeth gyffyrddus nos Iau wrth i gynghrair RaboDirect Pro12 ail ddechrau wedi'r bwlch am Gwpan Heineken.

Roedd disgwyl hynny gan y Gleision wrth groesawu'r tîm ar waelod y tabl - Aironi - i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Daeth pedwar cais i'r Gleision gan Casey Laulala, Dafydd Hewitt, Tom James a Marc Breeze, a phwynt bonws yn ei sgil.

Canlyniadau :-

Nos Iau -

Gleision 38-0 Aironi

Nos Wener -

Scarlets 22-12 Dreigiau

Glasgow 17-9 Ulster

Dydd Sadwrn -

Connacht 6-17 Gweilch

Munster 34-17 Caeredin

Treviso 20-30 Leinster

Tabl Cynghrair RaboDirect Pro12

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol