Y Seintiau Newydd ar y brig

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Mae'r Seintiau Newydd wedi codi i frig Uwchgynghrair Cymru yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Airbus nos Wener.

Ond fe fydd gan y ddau dîm sy'n dynn wrth eu sodlau, Bangor a Llanelli, gyfle i godi uwchben y Seintiau Newydd pe baen nhw'n cael canlyniadau ffafriol ddydd Sadwrn.

Y Seintiau Newydd 3 Airbus 1

Ddi-sgôr oedd hi tan hanner amser ond sgoriodd Darlington gôl gynta'r gêm i'r tîm cartref ar ôl chwe munud o'r ail hanner.

Llwyddodd Sheridan i lefelu'r sgôr wedi 74 munud ond aeth y Seintiau Newydd ar y blaen unwaith eto bedair munud yn ddiweddarach cyn i Seargeant cipio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref bum munud cyn chwiban ola'r gêm.

Caerfyrddin 2 Lido Afan 5

Curodd Lido Afan Gaerfyrddin o bum gôl i ddwy mewn gêm danbaid yng Nghaerfyrddin nos Wener.

Cafodd yr ymwelwyr ddechrau gwych i'r ornest wrth i Jones rhwydo wedi 15 munud.

Llwyddodd Hood i ddyblu mantais Lido Afan chwe munud yn ddiweddarach cyn i Thomas sgorio gôl gyntaf y tîm cartref dwy funud cyn yr egwyl.

Ond ymhen munud roedd yr ymwelwyr wedi ymestyn eu mantais i ddwy gôl unwaith eto ar ôl i Hill rhwydo gyda chic o'r smotyn.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gaerfyrddin pan sgoriodd Hill ei ail gôl ar ôl 55 munud ond cafodd y tîm cartref lygedyn o obaith pan sgoriodd Williams ddwy funud yn ddiweddarach.

Ond diflannodd unrhyw obaith i Gaerfyrddin ar ôl i Bevan gael ei anfon o'r cae wedi 71 munud a phan sgoriodd Hood bumed gôl Lido Afan chwe munud cyn diwedd yr ornest.

Coronwyd noson ddiflas i Gaerfyrddin pan gafodd Hughes ei anfon o'r cae ym munud ola'r gêm.

Canlyniadau

Nos Wener

Caerfyrddin 2 Lido Afan 5

Seintiau Newydd 3 Airbus 1

Dydd Sadwrn

Y Drenewydd v Bangor

Port Talbot v Llanelli

Dydd Sul

Bala v Castell-nedd

Prestatyn v Aberystwyth

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports:

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Y Seintiau Newydd 18 +20 39
2. Bangor 17 +17 38
3. Llanelli 17 +24 36
4. Castell-nedd 17 +19 32
5. Bala 17 +7 29
6. Prestatyn 17 +3 24
7. Airbus UK 18 -7 19
8. Port Talbot 17 -9 18
9. Lido Afan 17 -9 17
10. Aberystwyth 16 -11 13
11. Y Drenewydd 17 -27 13
12. Caerfyrddin 18 -27 10

Ar ôl gemau nos Wener Tachwedd 25 2011.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.