Llanelli yn codi i'r brig
- Cyhoeddwyd
Mae Llanelli wedi codi i frig Uwchgynghrair Cymru wedi i'r pencampwyr, Bangor, golli'n annisgwyl ddydd Sadwrn.
Enillodd y Seintiau yn erbyn Airbus UK Brychdyn nos Wener i godi i'r brig.
Roedd disgwyl i Fangor ennill yn y Drenewydd brynhawn Sadwrn, ond roedd sioc yno.
Aeth y Drenewydd ar y blaen yn gynnar, dim ond i Les Davies ddod â Bangor yn gyfartal yn gynnar yn yr ail hanner.
Ond gyda naw munud yn weddill, Gareth Partridge gafodd y gol i ennill triphwynt gwerthfawr i'r Drenewydd a rhoi ergyd i obeithion Bangor.
Mae Bangor felly wedi disgyn i'r trydydd safle gan i Lanelli sicrhau buddugoliaeth oddi cartref ym Mhort Talbot.
Stuart Jones gafodd unig gol y gem wedi 60 munud.
Roedd cysgod marwolaeth Gary Speed dros gemau ddydd Sul.
Yn y ddwy gêm a chwaraewyd, dim ond un gol a sgoriwyd, a honno'n roi buddugoliaeth i Brestatyn yn erbyn Aberystwyth.
Cyfartal di-sgor oedd hi rhwng Y Bala a Chastell-nedd.
Canlyniadau
Nos Wener
Caerfyrddin 2 Lido Afan 5
Seintiau Newydd 3 Airbus 1
Dydd Sadwrn
Y Drenewydd 2-1 Bangor
Port Talbot 0-1 Llanelli
Dydd Sul
Bala 0-0 Castell-nedd
Prestatyn 1-0 Aberystwyth
Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports:
Ar ôl gemau Dydd Sul, Tachwedd 27, 2011.