Cwpan y Byd i Wrecsam a Chastell-nedd yn 2013

Y Cae Ras Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd Wrecsam hefyd yn ganolfan hyfforddi i un o'r timau

Bydd Wrecsam a Chastell-nedd yn cynnal gemau yn ystod Cwpan Rygbi 13 y Byd yn 2013.

Bydd y Cae Ras yn Wrecsam yn cynnal gêm grŵp ac un y rownd yr wyth olaf, ac fe fydd hefyd yn ganolfan hyfforddi i un o'r timau.

Bydd y Gnoll yng Nghastell-nedd yn cynnal un gêm grŵp.

Mae'n dilyn gwahoddiad gan y corff rheoli, yr RFL, i stadiwms gynnig cynnal gemau yn y gystadleuaeth, sydd i'w chynnal yng Nghymru a Lloegr.

Doed dim cyhoeddiad hyd yma ble fydd y seremoni agoriadol.

Er mwyn dathlu llwyddiant Wrecsam, bydd cystadleuaeth fechan a sesiwn hyfforddi rygbi 13 ar yfer ysgolion lleol yn cael eu cynnal yn y Cae Ras ddydd Llun.

Mae'r stadiwm yn gartref i dîm newydd Crusaders Gogledd Cymru, a fydd yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.