Mewn llun: Atgofion am Gary Speed

Published
image captionGary Speed MBE 1969-2011: Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cadarnhau fod rheolwr y tîm cenedlaethol wedi marw yn 42 oed. Enillodd 85 o gapiau i Gymru
image captionChwaraeodd Speed ei gêm gyntaf i Leed yn 19 oed. Roedd yn aelod o'r tîm enilodd y bencampwriaeth yr hen Adran Gyntaf yn 1992 cyn i'r Uwchgynghrair ddechrau y tymor canlynol
image captionChwaraeodd Speed ei gêm gyntaf i Gymru yn 20 oed yn erbyn Costa Rica yn 1990. Yma mae'n chwarae yn erbyn Gwlad Belg yn 1993
image captionGadawodd Speed Leeds am Everton yn 1996 am £3.4m. Aeth ymlaen i fod yn gapten clwb Goodison Park
image captionNewcastle oedd trosglwyddiad nesaf Speed am £5.5m yn 1998. Mewn chwe blynedd yn y gogledd-ddwyrain fe chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan yr FA ddwywaith ac ymddangos yng Nghynghrair y Pencampwyr
image captionTreuliodd Speed bedair blynedd gyda Bolton o 2004. Ef oedd y chwaraewr cyntaf i chwarae 500 o gemau yn yr Uwchgynghrair
image captionYmddeolodd Speed o bêl-droed rhyngwladol yn 2004 - yr un adeg ag y gadawodd Mark Hughes ei swydd fel rheolwr y tîm
image captionDaeth ymddangosiad olaf Speed i Gymru yn 2004 yn erbyn Gwlad Pwyl yn Hydref 2004. Sgoriodd saith gol mewn 85 ymddangosiad - record i chwaraewr allanol - a bu'n gapten 44 o weithiau
image captionYn Ionawr 2008, aeth Speed i Sheffield United am £250,000 ond ymddeolodd o bêl-droed yn 2010
image captionCafodd Speed ei gyfle fel rheolwr yn Sheffield United yn Awst 2010
image captionYn Rhagfyr 2010, cafodd Speed ei benodi yn reolwr Cymru fel olynydd i John Toshack
image captionGêm olaf Speed gyda Chymru oedd y fuddugolaieth o 4-1 yn erbyn Norwy ar Dachwedd 12.
image captionRoedd pêl-droedwyr, rheolwyr, gwleidyddion a'r cyhoedd yn talu teyrngedau lu i Speed - un o fawrion pêl-droed yng Nghymru - wrth glywed am ei farwolaeth ddydd Sul