Ffermwyr i dderbyn grant Ewrop ar amser
- Cyhoeddwyd
Mae bron 90% o ffermwyr Cymru wedi cael clywed y byddan nhw'n derbyn rhan helaeth o'u hincwm yn brydlon ddydd Iau ar ffurf grant o'r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mwy na 14,500 o geisiadau wedi cael eu prosesu ac y byddai dros £214 miliwn yn cael ei dalu.
Dydd Iau yw'r diwrnod cyntaf y bydd ffermwyr yn cael derbyn grant o'r Undeb Ewropeaidd eleni.
Daw'r arian drwy'r Polisi Amaeth Cyffredinol ond mae bwrid i newid sut mae hwn yn gweithio.
Mae'r polisi yn rhoi cymhorthdal i'r diwydiant ac yn trefnu prisiau a lefelau cynhyrchu bwyd ond mae ffermwyr yn poeni y bydd cynlluniau i'w newid yn effeithio ar eu hincwm ar ôl 2013.
88%
Roedd y cyhoeddiad am y taliad fferm sengl ar ddiwrnod agoriadol y Ffair Aeaf yn Llanelwedd ddydd Llun.
O dan reolau'r Comisiwn Ewropeaidd, gall yr arian gael ei dalu i ffermwyr rhwng Rhagfyr 1 a Mehefin 30.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Amaeth, Alun Davies, y byddai 88% o ffermwyr yn derbyn eu taliadau ar y cyfle cyntaf, gyda mwy na 90% yn ei dderbyn erbyn diwedd Rhagfyr.
Pwysleisiodd ei fod yn ceisio cael "y fargen orau bosib i Gymru" yn y trafodaethau ar y polisi.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones: "I nifer o ffermwyr, y taliad yma yw'r gwahaniaeth rhwng gwneud elw a gwneud colled."
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2011