Darganfod car oedd ym Môr Hafren

Vauxhall Corsa yn y môr Image copyright Other
Image caption Y Vauxhall Corsa yn y môr

Mae car oedd ar goll ym Môr Hafren wedi dod i'r fei yn y dŵr ger pier Y Mwmbwls.

Cafodd ei weld yn arnofio yn y môr yn hwyr fore Mawrth a chafodd ei dynnu ar y traeth yn ddiweddarach.

Roedd Gwylwyr y Glannau Abertawe wedi cyhoeddi rhybudd arbennig i longau am fod y Vauxhall Corsa yn y môr.

Roedd y car wedi mynd o dan y dŵr ddydd Llun ar ôl cael ei barcio ger llithrfa yn Y Mwmbwls.

Roedd Gwylwyr y Glannau wedi gobeithio cael at y car yn ystod oriau mân fore Mawrth ond doedd hynny ddim yn bosib oherwydd llanw isel.

Ar ôl i'r llanw ddod i mewn daeth i'r amlwg fod y car wedi diflannu.

Dywedodd llefarydd ei fod yn credu fod y car llog yn newydd sbon.

Image copyright Other
Image caption Y Vauxhall Corsa nos Lun ger arfordir y Mwmbwls, Abertawe