Chwe newid yn nhîm rygbi Cymru

Shane Williams Image copyright bbc
Image caption Hon fydd gêm ola' Shane Williams i Gymru

Mae Warren Gatland wedi gwneud chwe newid i dîm rygbi Cymru ar gyfer ymweliad Awstralia â Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Awstralia oedd gwrthwynebwyr diwethaf Cymru yn y gêm am y fedal efydd yng Nghwpan y Byd.

Mae Sam Warburton yn dychwelyd fel capten wedi iddo gael ei wahardd am y gêm flaenorol yn dilyn ei gerdyn coch yn erbyn Ffrainc.

Hefyd yn dechrau bydd Scott Williams yn y canol, Rhys Priestland a Lloyd Williams y tu ôl i'r sgrym, y prop Scott Andrews a'r clo Ian Evans.

Oherwydd anafiadau dyw Jonathan Davies, Adam Jones, Paul James ac Alun Wyn Jones ddim ar gael, ac nid yw James Hook na Mike Phillips wedi cael eu rhyddhau gan eu clybiau yn Ffrainc.

Ond bydd sylw pawb ar yr asgellwr Shane Williams fydd yn dechrau ei gêm olaf i Gymru.

Hwn fydd cap rhif 87 i Williams, ac mae wedi sgorio 57 cais - record i'w wlad - yn y gemau.

Bydd Shane yn ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi'r gêm, ac mae disgwyl ffarwel emosiynol iddo gan y dorf yn Stadiwm y Mileniwm.

Tîm Cymru v. Awstralia; Stadiwm y Mileniwm; Dydd Sadwrn, Rhagfyr 3, 2:30pm :-

  • 15. Leigh Halfpenny (Gleision)
  • 14. George North (Scarlets)
  • 13. Scott Williams (Scarlets)
  • 12. Jamie Roberts (Gleision)
  • 11. Shane Williams (Gweilch)
  • 10. Rhys Priestland (Scarlets)
  • 9. Lloyd Williams (Gleision)
  • 1. Gethin Jenkins (Gleision)
  • 2. Huw Bennett (Gweilch)
  • 3. Scott Andrews (Gleision)
  • 4. Bradley Davies (Gleision)
  • 5. Ian Evans (Gweilch)
  • 6. Dan Lydiate (Dreigiau)
  • 7. Sam Warburton (Gleision; Capten)
  • 8. Toby Faletau (Dreigiau)

Eilyddion :-

M.Rees a T.Knoyle (Scarlets), R.Bevington, R.Jones, J.Tipuric a D.Biggar (Gweilch), A.Cuthbert (Gleision)

Straeon perthnasol