Gemydd i gynllunio'r Goron
- Cyhoeddwyd

Ddyddiau'n ôl yr oedd Anne Morgan yn gwerthu ei gwaith mewn marchnad yn yr ysgol lle mae ei phlant yn ddisgyblion.
Erbyn hyn, mae'r fam yn i ddwy'n un o grŵp dethol o artistiaid ar ôl iddi gael ei dewis i gynllunio'r Goron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf.
Gan fod y Brifwyl yn Llandŵ, ym Mro Morgannwg, mae'n addas bod gemydd o Benarth wedi'i ddewis i lunio Coron y bardd buddugol.
Cafodd Anne, sy'n fam i Lilly chwech oed a Poppy bedair oed, ei henwi'n swyddogol fel y cynllunydd mewn seremoni yn Yr Adran Gelf, sef canolfan celfyddydau cymunedol ym Mhenarth.
Dadorchuddio
"Dwy i erioed wedi cynnig cynllun ar gyfer comisiwn mor safonol," meddai hi.
"Roeddwn i ar bigau drain. Mae'n ffantastig felly, ei fod e wedi'i ddewis.
"Eto i gyd, pan rwy'n meddwl am y rhai fu'n llunio'r Goron yn y gorffennol, mae tipyn o ofn arna' i."
Bydd y Goron werth £4,780 dan nawdd Cyngor Bro Morgannwg, yn cael ei dadorchuddio yn yr Eisteddfod ym mis Awst y flwyddyn nesaf a bydd y cynllun yn gyfrinachol tan hynny.
Wyth o artistiaid gyflwynodd gynlluniau a chafodd y rheiny eu hasesu gan banel a oedd yn cynnwys Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Gordon Kemp, Swyddog Datblygu Celfyddydau'r Cyngor, Tracey Harding a Mererid Velios, sy'n aelod o bwyllgor celfyddydau gweledol yr Eisteddfod.
'Yn fendigedig'
Dywedodd y Cynghorydd Kemp oedd yn y seremoni swyddogol: "Roedd yn fendigedig gweld rhywun o'r Fro'n cael ei ddewis, yn enwedig o wybod bod y sir am groesawu'r ŵyl hon sy'n hawlio'r prif le yng nghalendr diwylliannol y Cymry."
Tasg Anne oedd creu cynllun a oedd wedi'i ysbrydoli gan amlinell glannau'r Fro, ac yr oedd hynny'n ail natur iddi am y bydd yn aml yn casglu gwrthrychau o draethau cyfagos i'w defnyddio yn ei chynlluniau.
"Y testun oedd Bro Morgannwg ac roedden nhw wedi awgrymu fy mod yn cael golwg ar amlinell y glannau a'r bryniau."
Fe fydd gwaith Anne cyn yr Eisteddfod mewn arddangosfa yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd, rhwng Rhagfyr 2 a 4.
Straeon perthnasol
- 6 Tachwedd 2011
- 1 Awst 2011
- 26 Gorffennaf 2010
- 13 Mai 2011