Ymateb cymysg i ddatganiad Osborne

Carwyn Jones Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Carwyn Jones: 'Dim dianc o'r ffaith fod yr economi yn agosáu at ddirwasgiad'

Mae ymateb y pleidiau yng Nghymru wedi bod yn gymysg i Ddatganiad Hydref y Canghellor yn Nhŷ'r Cyffredin.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, nad oedd cynlluniau Llywodraeth y DU yn mynd yn ddigon pell.

"Does dim dianc o'r ffaith fod yr economi yn agosáu at ddirwasgiad," meddai.

"Dywedodd y Canghellor mai ei nod yw lleihau'r ddyled gyhoeddus ond mae ei ystadegau ei hun yn dangos y bydd benthyca a dyled yn uwch na'r rhagolygon blaenorol ac fe fydd angen mwy o amser i'w thalu yn ôl.

"Mae hyn yn creu darlun pryderus iawn yng Nghymru a'r her yr ydyn ni'n parhau i'w hwynebu yw ceisio darparu gwasanaethau cyhoeddus ac amddiffyn yr economi."

Er bod cyhoeddiad, meddai, fod toll Pont Humber yn cael ei haneru, fe fyddai'r un ar Bont Hafren yn codi 30c i £6 ym mis Ionawr.

'Ddim yn dderbyniol'

Ond dywedodd y Canghellor ei fod yn awyddus i drafod â Llywodraeth Cymru am fod "bargen yn bosibl".

Rhybuddiodd Mr Jones y gallai adolygiad o gyflogau'r sector cyhoeddus olygu bod pobl yng Nghymru'n cael llai o gyflog na phobl De-ddwyrain Lloegr am yr un gwaith.

"Dyw hyn ddim yn dderbyniol," meddai.

Mynnodd fod ei lywodraeth ef wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o weithredu i hybu'r economi a chynyddu buddsoddiad preifat dros y 18 mis diwethaf.

"Mae'r ymateb yma (heddiw) yn brin o'r hyn sydd ei angen.

"Wrth gwrs, mae'n dda fod y Canghellor wedi cydnabod pwysigrwydd isadeiledd gan fod hon yn ddadl yr ydym wedi ei chyflwyno sawl tro.

"Dyw ei gynlluniau ddim yn gyfuniad fydd yn creu'r twf y mae ei angen yn fawr.

"Mae'r cloc yn tician ac ni all y Canghellor fforddio lynu at ei gynlluniau gwreiddiol wrth i bobl golli eu swyddi a'u hincwm."

Yn y cyfamser, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylai Llywodraeth Lafur Bae Caerdydd roi'r gorau i gwyno.

'Cwyno'

Dywedodd eu llefarydd ar gyllid, Paul Davies AC: "Mae'r arian ychwanegol i'w groesawu er mwyn cael ein heconomi i symud.

"Bydd pobl Cymru yn disgwyl i'r Llywodraeth Lafur Gymreig roi'r gorau i'r cwyno a dechrau cymryd cyfrifoldeb am eu gwariant.

"Mae gan weinidogion Cymru y grym a'r arian ychwanegol i fuddsoddi yn isadeiledd ein gwlad a gweld twf economaidd yng Nghymru."

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod datganiad y Canghellor yn "siomedig".

Dywedodd llefarydd economaidd y blaid, Jonathan Edwards, fod toriadau'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan "wedi arwain at ychydig iawn o dwf ond diweithdra llawer uwch".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu datganiad y Canghellor. Dywedodd AS Brycheiniog a Maesyfed, Roger Williams: "Er gwaetha'r cyni economaidd, mae llawer o bwyntiau da yn y datganiad, gan gynnwys £216m yn ychwanegol ar gyfer y Cynulliad am gyfnod o dair blynedd.

"Dwi'n gwybod y bydd ein harweinydd, Kirsty Williams AC, a'i thîm yn cydweithio'n agos â'r Blaid Lafur Gymreig er mwyn sicrhau y bydd yr arian yn cael ei wario fel bod bodd cael mwy o swyddi a thwf yn yr economi."

M4

Croesawodd Pennaeth Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, Robert Lloyd Griffiths, y penderfyniad i roi mwy o arian i Gymru.

"Mae George Osborne wedi addo £216m yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf gan Lywodraeth y DU.

"Yn y cynllun mawr, wrth gwrs, dyw hyn ddim yn swm anferth ond rwy'n hyderus y gallwn ei ddefnyddio er lles Cymru.

"Yn fwy arwyddocaol i mi oedd addewid y Canghellor y byddai ei lywodraeth yn trafod â Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwelliannau i'r M4 yn ne-ddwyrain Cymru."