Caerdydd 2-0 Blackburn Rovers

Kenny Miller Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Kenny Miller sgoriodd gôl gyntaf Caerdydd

Mae Caerdydd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Carling am yr ail dro yn hanes y clwb.

Roedd yr Adar Gleision yn fuddugol o gôl i ddim yn erbyn Blackburn Rovers yn rownd yr wyth olaf nos Fawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Kenny Miller sgoriodd gôl gynta'r gêm i'r tîm cartref wedi 19 munud ar ôl iddo dderbyn pas cywrain gan Aron Gunnarson.

Bu bron i Miller sgorio ail gôl yn ystod yr hanner cyntaf cyn i gapten Blackburn David Dunn methu gyda chyfle da i unioni'r sgôr.

West Ham

Sgoriodd Filip Kiss ail gôl Caerdydd wedi 50 munud ac er i'r ddau dîm gael cyfleoedd, felly yr arhosodd hi tan y chwiban olaf i fynd â Chaerdydd i'r rownd nesaf.

Yn ymuno â thîm Malky Mackay yn y rownd nesaf fydd Manchester City, a gurodd Arsenal 1-0 yn Stadiwm yr Emirates, a Lerpwl, a gurodd Chelsea 2-0 yn Stamford Bridge.

Bydd Manchester United yn chwarae Crystal Palace yng ngêm olaf rownd yr wyth olaf nos Fercher.

Fe fydd Caerdydd yn gobeithio y byddan nhw'n cael canlyniad gwell na'r tro diwethaf y cyrhaeddon nhw rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair yn ystod tymor 1965-66 pan gollon nhw 5-2 i West Ham yn y cymal cyntaf a 5-1 yn yr ail gymal.

Y Bedwaredd Rownd: Hydref 25

Caerdydd 1 Burnley 0

Y Drydedd Rownd: Medi 21

Caerdydd 2 Caerlŷr 2 (Caerdydd yn ennill 7-6 yn dilyn ciciau o'r smotyn)

Yr Ail Rownd: Awst 23

Caerdydd 5 Huddersfield 3

Y Rownd Gyntaf: Awst 10

Rhydychen 1 Caerdydd 3

Canlyniad :-

Caerdydd 2-0 Blackburn Rovers

Miller 19 mun

Kiss 50 mun