Hayes a Yeading 0 Casnewydd 4

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other

Hayes a Yeading 0 Casnewydd 3

Cododd Casnewydd i'r 20fed safle yn Uwchgynghrair Blue Square wedi iddynt guro Hayes a Yeading o bedair gôl i ddim oddi cartref nos Fawrth.

Rose sgoriodd gôl gynta'r ymwelwyr ar ôl 22 munud a dyblodd Foley fantais Yr Alltudion 16 munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Yakubu drydedd gôl Casnewydd ym munud ola'r hanner cyntaf.

Seliodd Yakubu y fuddugoliaeth gyda'i ail gôl ar ôl 75 munud.

Cafodd Wrecsam eu disodli o frig y Gynghrair gan Fleetwood wedi i'r tîm o Ogledd Orllewin Lloegr guro Kettering o dair gôl i ddim nos Fawrth.

Ond fe fydd gan Wrecsam gyfle i ddringo yn ôl i'r brig nos Fercher pan fyddan nhw'n gobeithio curo Darlington ar y Cae Ras.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Ar ôl gemau nos Fawrth, Tachwedd 29, 2011.