Twyll £161m: Carcharu dwy chwaer
- Cyhoeddwyd
Mae dwy chwaer, a gafwyd yn euog o geisio cael gwerth £161 miliwn o Dreth ar Werth drwy dwyll, wedi cael eu dedfrydu i dair blynedd a hanner o garchar yr un.
Cafodd y ddwy eu dedfrydu gan y Barnwr Niclas Parry yn Llys y Goron Caernarfon brynhawn dydd Mercher.
Wrth eu dedfrydu, dywedodd Mr Parry fod y "rheithgor wedi'ch gweld am yr hyn ydych chi - twyllwyr di-baid a chelwyddgwn gwbl ddigywilydd. Roeddech chi'n byw bywyd bras, trachwantus a hynny ar gost bobl eraill sy'n wynebu gwir galedi."
Roedd Roberta ac Andrea Vaughan-Owen o Fae Colwyn yn wynebu cyfres o gyhuddiadau o dwyll ond wedi gwadu'r cyhuddiadau.
Cymerodd y rheithgor ychydig llai na thair awr a hanner i benderfynu eu bod yn euog.
Yn siarad wedi'r ddedfryd ddydd Mercher, dywedodd Simon De Kayne, cyfarwyddwr cynorthwyol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi:
"Roedd Andrea a Roberta Vaughan-Owen yn byw'r math o fywyd all y rhan fwya' o bobl ond breuddwydio amdano; bywyd oedd wedi'i ariannu trwy ddichell a thwyll.
"Roedd graddfa ac amrywiaeth eu hymgeision i dorri'r gyfraith yn anghredadwy, ond doedd o ddim yn ddigon iddyn nhw ac fe arweiniodd eu trachwant at gais Treth ar Werth gwerth £161m, ac at eu cwymp. Ein cam nesa' fydd cymryd yr arian yn ôl."
Rolls Royce
Clywodd yr achos fod y ddwy wedi ceisio hawlio degau o filoedd o bunnau o fudd-daliadau nad oedden nhw'n gymwys i'w derbyn - a cheisio adennill £161m o Dreth Ar Werth nad oedden nhw erioed wedi ei thalu.
Dywedodd yr erlynydd Paul Taylor fod y chwiorydd wedi byw "y tu hwnt i freuddwydion pobl onest gyffredin".
Roedden nhw'n rhannu tŷ oedd yn werth £400,000 ym Mae Colwyn, yn gosod ail dŷ ar rent, yn mwynhau gofal iechyd preifat, yn talu am addysg breifat i blant Andrea ac wedi mynegi diddordeb mewn prynu eitemau moethus fel Rolls Royce oedd yn werth £315,000.
Dywedodd yr erlynydd ei bod hi'n hawdd twyllo yn achos credyd treth gweithio i bobl ar incwm isel, gan ychwanegu nad oedd gweision sifil wedi gwneud ymholiadau na gofyn cwestiynau.
Nid oedd y chwiorydd yn gweithio, meddai, ond roedd y taliadau i Andrea Vaughan-Owen yn seiliedig ar ei honiad ei bod yn gweithio o leiaf 32 awr yr wythnos ac yn ennill £800 y flwyddyn.
'Camddealltwriaeth'
Roedd y ddwy wedi honni eu bod yn gweithio fel ymgynghorwyr recriwtio.
Bu Roberta Vaughan-Owen ar un adeg yn gweithio i Heddlu Gogledd Cymru.
Honnodd Mr Taylor i'r ddwy gael arian o sawl ffynhonnell, gan gynnwys banciau, cwmnïau yswiriant a'r wladwriaeth.
Roedd y ddwy wedi mynnu mai camddealltwriaeth oedd y rheswm am eu cais am ad-daliad Treth ar Werth.
Dywedodd Andrea Vaughan-Owen wrth y llys nad oedd yn deall y ffurflen a'i bod wedi cael ei gorfodi i'w chwblhau ar frys.
Straeon perthnasol
- 9 Tachwedd 2011
- 7 Tachwedd 2011