Proffil: Chaz Davies

Chaz Davies Image copyright Not Specified
Image caption Mae Chaz Davies yn un o ser ifanc y byd rasio ym Mhrydain

Cafodd potensial anferth Chaz Davies ei wireddu yn 2011 pan enillodd Pencampwriaeth Supersport y Byd.

Daeth y gwr 24 oed y Cymro cyntaf i ennill teitl yn nosbarth Superbike y byd.

Fe sicrhaodd coron y bencampwriaeth yn y gyfres o 12 ras drwy orffen yn chweched yn ras olaf ond un y tymor yn Magny Cours yn Ffrainc.

Enillodd chwe ras yn y tymor Supersport yn 2011, y gystadleuaeth islaw Pencampwriaeth Superbike y Byd - Assen, Monza, Aragon, Silverstone, Nurburgring a'r ras olaf ym Mhortiwgal.

Y gyrrwr beic modur o Drefyclo yw'r Cymro cyntaf, a'r ail Brydeiniwr, erioed i ennill teitl Supersport y Byd ers y dechrau yn 1997.

Ac fe wnaeth y Cymro sicrhau dyrchafiad i'r bencampwriaeth Superbikes y tymor nesaf wedi iddo gadarnhau cytundeb i yrru i dîm Ducati yn 2012.