Proffil: Nathan Stephens
- Cyhoeddwyd

Mae Nathan Stephens wedi dangos eleni pam ei fod yn un o brif obeithion Prydain am fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012.
Dangosodd yr athletwr o Gymru ei allu diamheuol drwy orffen yn bedwerydd yn y waywffon, 8ed yn y taflu pwysau ac 11eg yn y ddisgen yn ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008.
Ond hon oedd y flwyddyn i Stephens ddangos ei allu go iawn fel taflwr y waywffon pan enillodd fedal aur ymMhencampwriaeth Paralymaidd y Byd yn Seland Newydd ym mis Ionawr.
Ond dangosodd y dyn 23 oed ei allu ymhellach drwy dorri'r record byd gyda thafliad o 41.37m yn y categori F57 ym mhencampwriaeth athletau agored y Weriniaeth Siec ym mis Awst.
"Yn amlwg, pencampwriaeth y byd yn Seland Newydd oedd y prif nod," meddai Stephens.
"Rhaid i mi gyrraedd fy ngorau ar gyfer y Gemau Paralympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf, ac roeddwn i am ailadrodd y broses felly fe newidiais fy amserlen hyfforddi."
Collodd Stephens ei ddwy goes pan gafodd ei daro gan drên pan oedd yn naw oed.
Dangosodd addewid drwy ennill ar y ddisgen, y pwysau a'r waywffon ym mhencampwriaeth ieuenctid y byd yn Nulyn yn 2006, ac yna gorffen yn bumed yn y pwysau a'r ddisgen ym mhrif bencampwriaeth y byd yn yr un flwyddyn.
Enillodd Stephens bencampwriaeth ieuenctid y byd am daflu'r waywffon yn 2009 a 2010 cyn symud i'r lefel uwch mewn modd dramatig eleni.
Mae'r athletwr o Ben-y-bont ar Ogwr hefyd wedi cystadlu yn nhîm hoci sled Prydain yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf yn 2006.