Cefnogwyr rygbi'n cofio Gary Speed

Roedd mascot wedi gwisgo crys rhif 11 Speed cyn i'w gyn glwb chwarae yn Nottingham Forest nos Fawrth Image copyright Getty Images
Image caption Roedd mascot wedi gwisgo crys rhif 11 Speed cyn i'w gyn glwb chwarae yn Nottingham Forest nos Fawrth

Bydd cefnogwyr Cymru'n cofio am reolwr pêl-droed y tîm cenedlaethol, Gary Speed, gyda munud o dawelwch ddydd Sadwrn.

Bydd torf o 52,000 yn canu'r emyn Cwm Rhondda cyn y funud o dawelwch.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei bod yn "bwysig i rygbi roi teyrnged i Gary Speed" a bod gêm Cymru yn erbyn Awstralia yn "gyfle addas".

Cafodd y dyn 42 oed ei ddarganfod yn crogi yn ei gartre' ddydd Sul.

Yn y cyfamser, bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn rhoi teyrnged yn eu gêm gartre' yn erbyn Darlington nos Fercher.

'Llysgennad gwych'

Wrth sôn am y deyrnged yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, dywedodd llefarydd ar ran URC: "Roedd Gary Speed yn ddyn talentog yn y byd chwaraeon, llysgennad gwych i bêl-droed a gwir fonheddwr.

"Fel rheolwr pêl-droed Cymru roedd yn cael llwyddiant oedd yn codi'r gêm i lefel newydd yn rhyngwladol.

"Roedd yn cynrychioli gwerthoedd a ffordd o weithio oedd yn canu cloch gyda phawb sydd ynghlwm wrth rygbi.

"Byddwn yn ei golli a bydd yn cael ei gofio yn sicr am ei lwyddiannau.

"Mae'n bwysig i rygbi ddangos parch iddo ac mae'r gêm ryngwladol ddydd Sadwrn - y gynta' i dîm Cymreig ers ei farwolaeth - yn gyfle addas."

Dywedodd Clwb Pêl-droed Wrecsam y byddai eu chwaraewyr yn gwisgo crysau arbennig fel teyrnged i Speed wrth ymarfer cyn cic gynta' eu gêm uwchgynghrair Blue Square nos Fercher.

Roedd Speed yn wyneb cyfarwydd ar y Cae Ras a'i fab yn hyfforddi yn academi'r clwb.

Bydd yna funud o dawelwch i Speed a anwyd 13 milltir o Wrecsam ym Mancot, Sir y Fflint.

'Sioc enfawr'

Mae llyfr cydymdeimlad wedi cael ei agor i gyn chwaraewr Newcastle, Everton, Bolton a Leeds.

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ddydd Mawrth.

Yn ôl llefarydd ar ran clwb Wrecsam: "Roedd yn sioc enfawr i bawb. Fel clwb roedden ni'n ei 'nabod yn dda am fod ei fab yn yr academi yma.

"Roedd llawer o'r chwaraewyr yn ei 'nabod, ac roedd rhieni eraill - roedden nhw'n ei 'nabod fel rhiant, nid fel rheolwr Cymru. Roedd o yma'n aml ar ddydd Sul.

"Mae'n biti mawr, ac mae'n holl gydymdeimlad ni gyda'i deulu."

Image copyright Getty Images
Image caption Baner gyda theyrnged i Gary Speed y tu allan i Ganolfan y Mileniwm

Roedd Speed wedi chwarae i Newcastle United 285 o weithiau, a dywedodd y clwb y byddai 'na lun o'r chwaraewr canol cae ar glawr eu rhaglen swyddogol ar gyfer eu gêm yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn, gyda theyrnged pedair-tudalen y tu mewn.

Roedd Speed wedi chwarae 85 o weithiau dros Gymru mewn gemau rhyngwladol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.