Wrecsam yn dychwelyd i'r brig
- Cyhoeddwyd
Wrecsam 2 Darlington 1
Dychwelodd Wrecsam i frig Cynghrair Blue Square wedi iddynt guro Darlington mewn gêm gyffrous ar y Cae Ras nos Fercher.
Yr ymwelwyr sgoriodd gyntaf pan rwydodd Marc Bridge-Wilkinson gyda chic o'r smotyn ar ôl 35 munud wedi i Mark Creighton droseddu yn erbyn Ryan Bowman yn y cwrt cosbi
Methodd Wrecsam ddod yn gyfartal tan 12 munud cyn y chwiban olaf pan sgoriodd Adrian Cieslewicz.
Cipiodd Wrecsam y tri phwynt pan sgoriodd Jake Speight dair munud yn ddiweddarach gan ddisodli Fleetwood o frig yr adran.
Ymddiriedolaeth
Cafodd Wrecsam eu disodli o frig y Gynghrair gan Fleetwood wedi i'r tîm o Ogledd Orllewin Lloegr guro Kettering o dair gôl i ddim nos Fawrth.
Hon oedd gêm gyntaf Wrecsam o dan reolaeth Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y Clwb.
Daeth cadarnhad fod Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth ddydd Mawrth.
Wrecsam: Mayebi, Obeng, Ashton, Creighton, Westwood, Harris, Cieslewicz, Hunt, Clarke (Little 67), Wright, Morrell
Eilyddion: Maxwell, Clowes, Little, Moss, Speight
Darlington: Russell, Arnison, Miller, Lee, Chandler, Taylor, McReady, Rundle, Hopson, Bridge-Wilkinson, Bowman (Gray 70)
Eilyddion: Nixon, Reach, Atkinson, Sanchez-Munoz, Gray
Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet
Ar ôl gem nos Fercher, Tachwedd 30, 2011.
Straeon perthnasol
- 30 Tachwedd 2011