Cwpan Cymru: Casnewydd 3 Y Barri 2

Cwpan Cymru Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe fydd gweddill gemau'r drydedd rownd yn cael eu cynnal y penwythnos hwn

Casnewydd yw'r tîm cyntaf i gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru wedi eu buddugoliaeth o dair gôl i ddwy yn erbyn Y Barri ym Mharc Spytty nos Fercher.

Prin 24 awr wedi iddynt guro Hayes a Yeading o bedair gôl i ddim oddi cartref yng nghynghrair y Blue Square Bet bu rhaid i'r Alltudion herio'r Barri.

Anthony Nagi sgoriodd gôl gynta'r gêm i'r Barri cyn i'r Alltudion ddod yn gyfartal drwy gôl gan Elliott Buchanan.

Aeth Casnewydd ar y blaen pan sgoriodd Felino Jardim ond fe ddaeth yr ymwelwyr yn gyfartal wedi i Nickie Jones sgorio gyda chic o'r smotyn.

Ond llwyddodd Casnewydd i ennill yr ornest pan sgoriodd Scott Rogers bum munud cyn y chwiban olaf.

Hwn oedd y tro cyntaf i Gasnewydd chwarae yng Nghwpan Cymru er 1992.

Wrecsam

Er bod llawer o sylw i'r ffaith fod Wrecsam a Chasnewydd yn dychwelyd i'r gystadleuaeth eleni wedi bwlch hir - 1995 i Wrecsam a 1992 i Gasnewydd - gêm arall hoeliodd y sylw.

Ddydd Sadwrn fe fydd Bangor - enillwyr y Gwpan am dair blynedd yn olynol cyn y tymor diwethaf - yn croesawu'r deiliaid Llanelli i Ffordd Farrar yn y drydedd rownd.

Bydd Wrecsam yn herio Airbus UK Brychdyn o Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn.

Fe fydd ambell gêm arall rhwng cymdogion agos hefyd gyda GAP Cei Cona yn croesawu Derwyddon Cefn, a dau dîm o Uwchgynghrair Cymru - Port Talbot a Lido Afan - yn wynebu ei gilydd.

Un arall sy'n tynnu sylw yw ymweliad Y Rhyl â'r Drenewydd.

Bydd y gemau'n cael eu chwarae'r penwythnos hwn.

Trydedd Rownd Cwpan Cymru yn llawn:-

Nos FercherTachwedd 30

Casnewydd Y Barri

Nos Wener Rhagfyr 2

Caerfyrddin v Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Sadwrn Rhagfyr 3

Y Fflint v Gwasanaeth Sifil Casnewydd

Y Seintiau Newydd v Bryntirion

Y Porth v Cambrian a Chlydach

Wrecsam v Airbus UK Brychdyn

Caersws v Llandudno

Bwcle v Ffynnon Taf

Castell-nedd v West End

Cefn v Aberystwyth

Y Drenewydd v Y Rhyl

Bangor v Llanelli

Prestatyn v Goytre United

GAP Cei Conna v Derwyddon Cefn

Seintiau Merthyr v Y Bala

Dydd Sul Rhagfyr 4

Port Talbot v Lido Afan

Straeon perthnasol