Damwain M5: Angladd pâr priod

Llun teulu o Tony a Pam Adams Image copyright Other
Image caption Roedd Tony a Pam Adams, o Gasnewydd, ar eu ffordd adre' ar ôl ymweld â'u merch yn Taunton

Mae angladd pâr priod fu farw mewn damwain ar draffordd yr M5 yn Gwlad yr Haf fis diwethaf yn cael ei gynnal heddiw.

Roedd Tony a Pamela Adams o Gasnewydd yn ddau o'r saith o bobl fu farw yn y ddamwain ger Taunton ar Dachwedd 4.

Cynhelir y gwasanaeth yn Eglwys San Marc yng Nghasnewydd am 1.30pm ac yna yn Amlosgfa Gwent am 3.30pm.

Y Gwir Barchedig Dominic Walker, Esgob Mynwy a'r Canon Andrew Willie, Ficer San Marc, fydd yn cynnal y gwasanaeth.

'Aelodau ffyddlon'

Bu'r ddau'n gyrru adref ar ôl ymweld â'u merch, Tonia White yn Taunton pan ddigwyddodd y ddamwain.

Ar y pryd dywedodd y teulu fod eu colled sydyn yn "dorcalon llwyr" a'u bod yn meddwl nid yn unig am eu rhieni ond am y bobl eraill fu'n rhan o'r ddamwain.

Ar y pryd, dywedodd y Canon: "Fe fyddwn ni'n cofio Tony a Pam gyda chariad ac anwyldeb.

"Bu Tony a Pamela yn aelodau ffyddlon o'r eglwys am nifer o flynyddoedd ac roedd Tony yn gyn warden eglwys a bu Pamela yn rhan o nifer o weithgareddau'r eglwys."

Roedd Mr a Mrs Adams yn eu saithdegau cynnar a Mr Adams yn weinyddwr ysbyty cyn iddo ymddeol.

Cafodd 51 o bobl eu hanafu yn y ddamwain wedi i 34 o gerbydau daro yn erbyn ei gilydd ar draffordd yr M5 yng Ngwlad yr Haf.

Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad troseddol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.