Galwad ffug: Yr heddlu yn rhyddhau recordiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ceisio dal dyn wnaeth adael negeseuon ffug fod bom wedi ei adael mewn gwesty ym Mhowys wedi rhyddhau recordiad o'i alwad 999.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod y dyn wedi eu ffonio nhw ddydd Iau diwethaf o Aberhonddu.
Yn ôl yr alwad roedd bom wedi ei osod yng Ngwesty'r George, ac roedd gan yr heddlu bum munud i wagio'r adeilad.
Bu'n rhaid i 50 o bobl adael er mwyn i'r heddlu archwilio'r adeilad.
"Fe wnaeth y dyn roi'r ffôn i lawr ar ôl cyfnod byr, felly dim ond ychydig o gofnod sydd yna," meddai'r ditectif arolygydd Iwan Jones.
"Ond mae ei lais yn glir ac rydym yn gobeithio y bydd rhywun yn adnabod y llais ac yn cysylltu â ni.
"Mae'n amlwg fod hyn wedi profi'n drafferthus i westy'r George, ac i'r bobl gafodd eu heffeithio.
"Rydym yn bernerfynol o ddal y person sy'n gyfrifol."
Dywedodd, rheolwr cyffredinol Gwesty'r George, Les Rees, fod yr alwad i'r heddlu wedi ei wneud o flwch ffonio yng nghefn y gwesty.
Dylai pobl sy'n adnabod yr heddlu gysylltu â heddlu Aberhonddu ar 101.