Ceidwadwyr yw'r gwarwyr mwayf

Y Cynulliad yng Nghaerdydd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Gwariodd y pleidiau £869,000 ar eu hymgyrchoedd etholiadol

Gwariodd y Ceidwadwyr £130,000 yn fwy na'r Blaid Lafur i frwydro etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr wario £283,000 yn ystod eu hymgyrch.

Enillodd y blaid 14 sedd gan orffen yn ail i'r blaid Lafur, enillodd 30 sedd ar ôl gwario £153,000.

Enillodd Plaid Cymru 11 sedd wedi iddynt wario £173,000 ac enillodd Y Democratiaid Rhyddfrydol pum sedd ar ôl gwario £114,000.

'cau pen y mwdwl'

Mae ffigyrau'r Comisiwn Etholiadol yn dangos fod y pleidiau wedi gwario £869,000 rhwng Ionawr 6 a diwrnod yr etholiad ar Mai 5.

Fe wnaeth Comisiwn ddatgelu gwariant y Ceidwadwyr yn hwyrach na'r pleidiau eraill am eu bod wedi gwarion mwy na £250,000.

Dywedodd Kay Jenkins, Pennaeth Swyddfa'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: "Mae tryloywder yn rhan bwysig o'r broses ddemocratig a rhan o'r broses hon yw sicrhau bod pleidleiswyr yn gwybod faint o arian a gafodd ei wawrio yn ystod yr etholiad."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.