Cyfle cerddorol i ferched yn Eglwys Gadeiriol Bangor

Eglwys Gadeiriol Bangor Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r Eglwys Gadeiriol hefyd yn bwriadu cynyddu nifer aelodau côr y bechgyn

Bydd côr merched yn cael ei sefydlu am y tro cyntaf erioed yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Mae'r Eglwys Gadeiriol hefyd yn bwriadu cynyddu nifer aelodau côr y bechgyn.

Yn ôl Canon Michael Outram, y bwriad yw i'r ddau gôr weithio ochr yn ochr.

Mae'r Eglwys Gadeiriol hefyd wedi penderfynu creu ysgoloriaethau gwerth £600 y flwyddyn.

Bydd yr arian yn talu am wersi offerynnol a gwersi canu ac yn helpu talu am arholiadau cerddoriaeth.

'Sylfaen gerddorol'

Bydd yr ysgoloriaethau yn cael eu hariannu gan ymddiriedolaethau ac yn sgil hyn y bydd ysgol gerdd yn cael ei chreu.

Bydd yr ysgol yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc i ganu neu chwarae offeryn.

Mae'r canwr a chyflwynydd teledu a radio Aled Jones yn gyn-aelod o gôr yr eglwys gadeiriol.

Dywedodd Canon Outram: "Ni allwn addo'r un fath o yrfa ag Aled Jones ond fe allwn ni gynnig yr un sylfaen gerddorol a gafodd Aled."

Mae safle'r Eglwys bresennol wedi bod yn fan addoli i Gristnogion ers 525 Oed Crist.

Cafodd Sant Deiniol ei wneud yn Esgob yn 546 OC, a chafodd yr eglwys ei dyrchafu'n Eglwys Gadeiriol.

Cafodd y safle ei ddifrodi gan ryfeloedd a'i hailadeiladu sawl gwaith.

Mae'r rhannau cynharaf o'r adeilad presennol yn dyddio nôl i 1120au.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.