Gyrru car ar gae pêl-droed: Apêl

Y cerbyd ar y cae Image copyright Other
Image caption Y cerbyd ar y cae

Mae'r heddlu'n apelio am help y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i ddyn yrrodd gar ar gae yn ystod gêm bêl-droed.

Roedd hyn yn ystod gêm rhwng Mumbles Rangers a Kingsbridge Colts ym Mharc Underhill yn Y Mwmbwls brynhawn Sadwrn, Tachwedd 12.

Fe dynnodd rhywun yn y dorf luniau o'r car a'r gyrrwr.

Image copyright Other
Image caption Y gyrrwr

Dywedodd y Sarjant Chris Mackay o Heddlu'r De: "Yn ystod y gêm fe yrrwyd y Mitsubishi L200 du heb rif car i'r cae gan droi deirgwaith yn y cylch canol.

"Roedd hyn yn beryglus i'r chwaraewyr a'r dorf."

Dylai unrhyw un sy'n adnabod y gyrrwr neu'r cerbyd ffonio'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.