Gwr a gwraig i rannu offeiriadaeth

Mary a David Dunn Image copyright Other
Image caption Mae'r gwr a gwraig yn offeiriad-mewn-gofal grwp o eglwysi

Am y tro cyntaf bydd gŵr a gwraig yn dod yn offeiriaid-mewn-gofal dros nifer o eglwysi yn Esgobaeth Llanelwy.

Bydd y Parchedigion David a Mary Dunn yn gyfrifol am blwyfi Llanfair Caereinion, Llanllugan a Manafon, ger Y Trallwng ym Mhowys.

Cafodd y ddau eu magu yn ne Cymru ac maent wedi bod yn briod am 43 o flynyddoedd.

Mae ganddynt bedwar o blant a dau ohonyn nhw hefyd yn offeiriaid.

Mae David wedi bod yn ficer ym Mhontnewydd am 18 mlynedd tra cafodd Mary ei hordeinio tair blynedd yn ôl a bu'n gurad ym Malpas, Casnewydd.

Dywedodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron: "Hwn fydd y tro cyntaf yn ein hesgobaeth i ŵr a gwraig gael eu penodi'n offeiriad-mewn-gofal.

"Bydd yn her gyffrous i David a Mary ac rydym yn edrych ymlaen at bopeth y gallant ei gynnig i blwyfi Llanfair Caereinion, Llanllugan a Manafon."

Bydd y ddau yn cael eu cyflwyno i'w plwyfi newydd am 3pm mewn gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair yn Llanfair Caereinion.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.