Perllannau newydd i warchod ffrwyth
- Cyhoeddwyd
Bydd perllannau newydd yn cael eu plannu yn Sir y Fflint er mwyn gwarchod hen fathau o ffrwythau a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu ar eu presenoldeb.
Mae tua 90% o berllannau gogledd-ddwyrain Cymru wedi cael eu colli dros y 40 mlynedd ddiwethaf.
Bellach mae arbenigwyr bywyd gwyllt Sir y Fflint am ddod o hyd i hen berllannau a'u rheoli yn ogystal â phlannu rhai newydd.
Bydd y cynllun yn cael ei weithredu gan Gyngor Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, ac fe gafodd £40,000 gan Lywodraeth Cymru.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gynlluniau i atal y dirywiad mewn perllannau.
Bywyd gwyllt
Bydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn rhannol gyfrifol am reoli'r cynllun diweddaraf, ac maen nhw'n dweud fod gwarchod perllannau lleol yn gymorth i warchod bywyd gwyllt sy'n byw o fewn cyrraedd, fel adar, gloÿnnod byw, gwenyn a thrychfilod eraill.
Dywedodd rheolwr y cynllun ar ran yr ymddiriedolaeth bywyd gwyllt, Rhian Hughes:
"Bydd y cynllun yn dewis 20 o hen berllannau ac yn eu rheoli, ac fe fyddwn hefyd yn plannu rhai newydd."
Un o berllannau enwoca'r ardal yw honno yn Neuadd Erddig ger Wrecsam lle mae'r prif arddwr, Glyn Smith, yn cadw ffrwythau sy'n cynnwys nifer o hen fathau anghyffredin o afalau.
Yn yr ardal hefyd mae hen fath lleol o eirin duon, ac mae rheolwyr y cynllun hefyd yn chwilio am Eirin Mair Sir y Fflint.