Adfer cyflenwad nwy i 500 o dai
- Cyhoeddwyd
Mae cyflenwadau nwy wedi eu hadfer i tua 500 o gartrefi Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd.
Fe lwyddodd peirianwyr i adfer y cyflenwad tua 9pm nos Sadwrn.
Yn ôl y cynghorydd sir lleol Gareth Thomas amharwyd ar y cyflenwad tua 6pm ddydd Gwener.
Yn ol llefarydd ar ran cwmni Wales and West Utilities (WWU) roedd pobl wedi cael cynnig offer arall ar gyfer coginio a gwresogi.
Fe ymddiheurodd am unrhyw drafferthion a achoswyd i bobl leol.