Brentford 0-1 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi cyrraedd trydydd rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl curo Brentford o'r adran gyntaf.

Jamie Tolley roddodd y Dreigiau ar y blaen gyda foli o ymyl y cwrt cosbi.

Llwyddodd golgeidwad Wrecsam Joslain Mayebi i arbed yn wych ar ôl cig gosb Sam Saunders.

Yn yr ail hanner fe ddaeth Nathaniel Knight-Percival yn agos i roi Wrecsam ymhellach ar y blaen.

Wrecsam : Mayebi, Obeng, Ashton, Creighton, Harris, Cieslewicz (Morrell 82), Fowler, Tolley, Knight-Percival, Wright, Speight (Pogba 68)