Blackburn 4-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Blackburn 4-2 Abertawe
Sgoriodd Yakubu bedair gwaith wrth i Blackburn sicrhau eu hail fuddugoliaeth o'r tymor drwy guro Abertawe 4-2.
Abertawe ddechreuodd orau, ac roedd gan Brendan Rogers bod hawl i deimlo'n ddig pan aeth Blackburn ar y blaen.
Ond ar ôl 35 munud roedd yr Elyrch yn gyfartal diolch i beniad Leroy Lita.
Yna wrth i'r egwyl agosáu, fe wnaeth peniad Yakubu roi'r tîm ar waelod y gynghrair ar y blaen.
Cyn ymosodwr Everton oedd yn gyfrifol am drydydd gôl Rovers ar ôl cic cornel ar ôl 57 munud.
Er i gôl Luke Moore ddechrau codi amheuon ymhlith ffyddloniaid Ewood Park, doedd yna ddim diweddglo hapus i Abertawe.
Cafodd Joe Allen ei anfon o'r cae ar ôl derbyn ail gerdyn melyn.
Dyfarnwyd cic gosb i Blackburn ar ôl 82 munud ar ôl trosedd yn erbyn Vukcevic, ac fe rwydodd Yakubu.
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 3
Straeon perthnasol
- 18 Tachwedd 2011
- 30 Mai 2011