Cwpan Cymru: Bangor 2-4 Llanelli

Cwpan Cymru Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe fydd gweddill gemau'r drydedd rownd yn cael eu cynnal y penwythnos hwn

Mae deiliaid Cwpan Cymru drwodd i'r rownd nesaf ar ôl curo Bangor 4-2.

Kyle Wilson rododd y tîm cartref ar y blaen ar ôl dim ond munud o chwarae.

Ond tarodd Llanelli yn ôl bron yn syth gyda Lee Surman yn rhwydo ar ôl tri munud.

Er i Fangor fynd yn ôl ar y blaen diolch i Les Davies, Llanelli sicrhaodd y fuddugoliaeth gyda hat-tric gan Rhys Griffiths.

Sioc y drydedd rownd oedd bod Wrecsam wedi colli 2-1 gartre i Airbus ar ôl amser ychwanegol.

Hwn oedd y tro cyntaf i Wrecsam gystadlu yn y gystadleuaeth ers 1995.

Ail dim Wrecsam oedd yn chwarae, gan fod cystadleuaeth Cwpan FA Lloegr yn cael ei chynnal ar yr un diwrnod.

Trydedd Rownd Cwpan Cymru yn llawn:

Y Fflint 3-0 Gwasanaeth Sifil Casnewydd

Y Seintiau Newydd 6-0 Bryntirion

Y Porth 4-3 Cambrian a Chlydach

Wrecsam 1-2 Airbus UK Brychdyn

Caersws 0-1 Llandudno

Bwcle 4-3 Ffynnon Taf

Cefn 1-6 Aberystwyth

Y Drenewydd 1-2 Y Rhyl

Bangor 2-4 Llanelli

Prestatyn 6-2Goytre United

GAP Cei Conna 1-2 Derwyddon Cefn

Seintiau Merthyr 0-6 Y Bala

Nos FercherTachwedd 30

Casnewydd 3-2 Y Barri

Nos Wener Rhagfyr 2

Caerfyrddin 2-1 Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Sul Rhagfyr 4

Castell-nedd 4-0 West End

Port Talbot 0-1 Lido Afan

Straeon perthnasol