Diswyddo 75 o ffatri beirianneg yn sir Caerffili

logo HSS Image copyright Other
Image caption Deellir mai cwymp mewn gwerthiant sy'n gyfrifol am y toriadau

Bydd 75 o weithwyr yn colli'u gwaith mewn ffatri beirianneg yn y Coed Duon, Caerffili.

Fe fydd cwmni Hawker Siddeley Swithgear yn diswyddo 35 o staff llawn amser yn y pen draw, a bydd 40 o staff dros dro yn colli eu swyddi cyn y Nadolig.

Deellir fod y toriadau yn digwydd oherwydd cwymp mewn gwerthiant.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni y byddan nhw'n gwneud datganiad swyddogol yn ddiweddarach ddydd Llun.

Ychwanegodd fod y cwmni mewn trafodaethau gyda'r undebau.

Mae'r cwmni ar Barc Busnes y Coed Duon yn cynhyrchu cydrannau sy'n rheoli peiriannau a thrydan.

Cafodd Hawker Siddeley Switchgear ei ffurfio yn 1991 pan unwyd dau gwmni arall, ac fe gafodd ei brynu gan FKI plc ym mis Tachwedd 1996 cyn symud i'r safle presennol.

Yn 2008, prynwyd FKI gan Melrose plc ac fe wnaethon nhw adfer enw gwreiddiol y cwmni, Hawker Siddeley.