Tân: Cyngor yn ystyried eu hopsiynau

Ysgol Glanadda Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried dyfodol yr adeilad

Mae cyngor yn ystyried opsiynau ar gyfer dyfodol adeilad ym Mangor gafodd ei ddifrodi.

Eisoes mae'r gwaith adfer wedi dod i ben.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd wedi cynnal ymchwiliad ynghylch y tân ddechreuodd yn hen Ysgol Glanadda tua 12.30am ar Hydref 29.

Yn yr ysgol mae Uned Bryn Llwyd sy'n cynnig cefnogaeth i ddisgyblion nad ydyn nhw'n mynychu ysgolion prif ffrwd.

Mae trefniadau eraill wedi eu gwneud ar gyfer y disgyblion ers i'r tân ddifrodi'r adeilad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn ystyried nifer o opsiynau ynghylch dyfodol yr adeilad.

Fe gafodd yr adeilad ei godi yn 1888.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.